Revelation 5:11 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno mi edrycheis, ac y glyweis lleis llawer o Angylion ynghylch yr eisteddle ac ynghylch yr enefeilied ar henafied, ac yr oeddent mil o filioedd,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A gwelais, a chlywais lais angylion lawer ynghylch yr orsedd-faingc a’r anifeiliaid a’r henuriaid; ac yr oedd eu rhifedi yn fyrddiynau o fyrddiynau, a miloedd o filoedd,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac edrychais a chlywais lais angylion lawer o gylch yr orsedd a’r pethau byw a’r henuriaid, a’u nifer oedd fyrddiynau ar fyrddiynau a miloedd ar filoedd,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac mi a edrychais, ac a glywais lais angylion lawer ynghylch yr orseddfainc, a'r anifeiliaid, a'r henuriaid: a'u rhifedi hwynt oedd fyrddiynau o fyrddiynau, a miloedd o filoedd;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna yn y weledigaeth, clywais sŵn tyrfa enfawr o angylion — miloedd ar filoedd ohonyn nhw! … miliynau! Roedden nhw'n sefyll yn gylch o gwmpas yr orsedd a'r creaduriaid byw a'r arweinwyr ysbrydol,
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna edrychais a chlywais lais angylion lawer; yr oeddent o amgylch yr orsedd a'r creaduriaid byw a'r henuriaid. A'u rhif oedd myrdd myrddiynau a miloedd ar filoedd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A gwelais, a chlywais lais angelion lawer o gylch yr Orsedd a'r creaduriaid byw a'r henuriaid; ac yr oedd eu rhifedi yn fyrddiynnau o fyrddiynnau, a miloedd o filoedd,