Revelation 5:13 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac mi a glywes yr holl creadyried y rrein ydynt yny nef, ac ar y ddayar, a than y ddayar, ac yny mor, a’ phob peth y sydd yndynt hwy, yn dwedyd, Moliant, ac anrrydedd, a’ gogoniant, a gallu y vo yddo ef, y sydd yn eiste ar yr eisteddle, ac yr Oen yn dragywydd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A phob peth creedig y sydd yn y nef, ac ar y ddaear, a than y ddaear, ac ar y môr, a’r pethau ynddynt, bob un o honynt, a glywais yn dywedyd, I’r Hwn sy’n eistedd ar yr orsedd-faingc, ac i’r Oen, bydded y fendith a’r anrhydedd a’r gogoniant a’r nerth yn oes oesoedd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A phob creadur a’r sydd yn y nef ac ar y ddaear a than y ddaear ac yn y môr, a’r cwbl y sydd ynddynt, a glywais yn dywedyd: I’r hwn sy’n eistedd ar yr orsedd ac i’r Oen y bo’r mawl a’r anrhydedd a’r gogoniant a’r nerth yn oes oesoedd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phob creadur a'r sydd yn y nef, ac ar y ddaear, a than y ddaear, a'r pethau sydd yn y môr, ac oll a'r sydd ynddynt, a glywais i yn dywedyd, I'r hwn sydd yn eistedd ar yr orseddfainc, ac i'r Oen, y byddo'r fendith, a'r anrhydedd, a'r gogoniant, a'r gallu, yn oes oesoedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna clywais bopeth byw yn y nefoedd ac ar y ddaear, tan y ddaear ac ar y môr — y cwbl i gyd — yn canu: “Clod ac anrhydedd, gogoniant a nerth am byth bythoedd, i'r Un sy'n eistedd ar yr orsedd, ac i'r Oen!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A chlywais bob peth a grewyd, yn y nef ac ar y ddaear a than y ddaear ac ar y mr, a'r cwbl sydd ynddynt, yn dweud: "I'r hwn sy'n eistedd ar yr orsedd ac i'r Oen y bo'r mawl a'r anrhydedd a'r gogoniant a'r nerth byth bythoedd!"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phob peth crëedig yn y nef, ac ar y ddaear, a thàn y ddaear, ac ar y môr, a'r holl bethau sydd ynddynt, a glywais i yn dywedyd, I'r hwn sydd yn eistedd ar yr Orsedd, ac i'r Oen, Y byddo y fendith, a'r anrhydedd, a'r gogoniant, a'r nerth, yn oes oesoedd.