Revelation 5:6 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno mi edrycheis, a synna, yn c h anol yr eisteðle, ar pedwar enifel, ac yn c h anol yr henafied, yr ydoedd Oen yn sefyll mal by biasey gwedy ladd, yr hwn oedd a seith corn, ac a seith Hygad yddo, y rrein ydynt seith ysbryd Dyw, y ddanvonwyd yr h oll vud.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A gwelais rhwng yr orsedd-faingc a’r pedwar anifail a’r henuriaid, oen yn sefyll fel wedi ei ladd, a chanddo saith gorn a saith llygad, y rhai ydynt saith Yspryd Duw, danfonedig i’r holl ddaear.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A gwelais ynghanol yr orsedd a’r pedwar peth byw ac ynghanol yr henuriaid oen yn sefyll megis wedi ei ladd, a chanddo saith gorn a saith lygad, y rhai yw saith ysbryd Duw, danfonedig i’r holl ddaear.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac mi a edrychais; ac wele, yng nghanol yr orseddfainc a'r pedwar anifail, ac yng nghanol yr henuriaid, yr oedd Oen yn sefyll megis wedi ei ladd, a chanddo saith gorn, a saith lygad, y rhai ydyw saith Ysbryd Duw, wedi eu danfon allan i'r holl ddaear.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna gwelais Oen oedd yn edrych fel petai wedi ei ladd. Roedd yn sefyll rhwng yr orsedd a'r pedwar creadur byw a'r arweinwyr ysbrydol oedd o'i chwmpas hi. Roedd ganddo saith corn a saith llygad (yn cynrychioli Ysbryd cyflawn perffaith Duw sydd wedi ei anfon allan drwy'r byd i gyd).
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwelais Oen yn sefyll yn y canol, gyda'r pedwar creadur byw, rhwng yr orsedd a'r henuriaid. Yr oedd yr Oen fel un wedi ei ladd, ac yr oedd ganddo saith o gyrn a saith o lygaid; y rhain yw saith ysbryd Duw, sydd wedi eu hanfon i'r holl ddaear.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A gwelais yng nghanol yr Orsedd a'r pedwar creadur byw, ac yng nghanol yr henuriaid, Oen yn sefyll, fel wedi ei ladd, a chanddo saith gorn a saith llygad, y rhai yw saith Yspryd Duw, wedi eu danfon allan i'r holl ddaear.