Revelation 5:8 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A phan cymerth ef y Llyfr, y pedwar enifel, ar pedwar ar igein henafied, y syrthiasont gair bron yr Oen, ac yr ydoeð gan bob vn o hanynt telyney a phiolae aur yn llawn o erogley, y rrein ydynt gweddie’r Sainct,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a phan gymmerodd Efe y llyfr, y pedwar anifail a’r pedwar henuriad ar hugain, a syrthiasant ger bron yr Oen, a chanddynt, bob un, delyn, a phialau aur gorlawn o arogl-darth,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a phan gymerth y llyfr syrthiodd y pedwar peth byw a’r pedwar henuriad ar hugain o flaen yr Oen, a chanddynt bob un delyn a ffialau aur yn llawn arogl-darth, sef gweddïau’r saint.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan gymerth efe'r llyfr, y pedwar anifail a'r pedwar henuriad ar hugain a syrthiasant gerbron yr Oen; a chan bob un ohonynt yr oedd telynau, a ffiolau aur yn llawn o arogl-darth, y rhai ydyw gweddïau'r saint.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ac wrth iddo gymryd y sgrôl, dyma'r pedwar creadur byw a'r dau ddeg pedwar arweinydd ysbrydol yn syrthio i lawr ar eu hwynebau o flaen yr Oen. Roedd telyn gan bob un ohonyn nhw, ac roedden nhw'n dal powlenni aur yn llawn o arogldarth (sy'n cynrychioli gweddïau pobl Dduw).
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac wedi iddo gymryd y sgrl, syrthiodd y pedwar creadur byw a'r pedwar henuriad ar hugain o flaen yr Oen, ac yr oedd gan bob un ohonynt delyn, a ffiolau aur yn llawn o arogldarth; y rhain yw gweddau'r saint.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phan gymerodd efe y Llyfr, y pedwar creadur byw a'r pedwar henuriad ar-hugain a syrthiasant ger bron yr Oen, a chanddynt, bob un delyn, a chrythau aur yn llawn o arogl‐darth, y rhai yw gweddïau y saint.