Revelation 6:10 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac hwy a lefasont a llef ywchel, dan ddwedyd, Pa hyd, Arglwydd, santeið a chowir? nad ydwyd yn barny a ’dial yn gwaed ni, ar y rrein ar ydynt yn trigo ar y ddayar.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a gwaeddasant â llais mawr, gan ddywedyd, Hyd pa hyd, Feistr, y Sanctaidd a Gwir, nad wyt yn barnu, ac yn cymmeryd dialedd ein gwaed ar y rhai sy’n trigo ar y ddaear?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A gwaeddasant â llais uchel gan ddywedyd: Pa hyd, O Deyrn sanctaidd a chywir, y byddi heb farnu a dial ein gwaed ni ar y sawl a breswylia ar y ddaear?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwy a lefasant â llef uchel, gan ddywedyd, Pa hyd, Arglwydd, sanctaidd a chywir, nad ydwyt yn barnu ac yn dial ein gwaed ni ar y rhai sydd yn trigo ar y ddaear?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedden nhw'n gweiddi'n uchel, “O Feistr Sofran, sanctaidd a gwir! Faint mwy sydd raid i ni aros cyn i ti farnu'r bobl sy'n perthyn i'r ddaear, a dial arnyn nhw am ein lladd ni?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwaeddasant llais uchel: "Pa hyd, Benllywydd sanctaidd a gwir, cyn i ti farnu, a dial ein gwaed ar drigolion y ddaear?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
a hwy a lefasant â llef uchel, gan ddywedyd, Pa hyd, o Feistr, y Sanctaidd a'r Gwirioneddol, nad wyt yn barnu ac yn dial ein gwaed ni ar y rhai sydd yn trigo ar y ddaear?