Revelation 6:11 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ gowney gwnion hirion y rroed y bob vn o naddynt, ac y ddwetpwyd wrthynt, am yddynt o’rffwys dros ychydic o amser hyd yn gyflewnid rif y] cydwasnaethwyr, ac brodyr, y ledd es id, mal y llas ynthwy.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A rhoddwyd iddynt, i bob un, laes-wisg wen; a dywedwyd wrthynt orphwys etto ychydig amser, hyd oni chyflawnid rhif eu cyd-weision a’u brodyr, y rhai oedd ar fedr eu lladd, fel y cawsent hwythau hefyd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A rhoddwyd iddynt bob un fantell wen, a dywedwyd wrthynt am orffwys eto ychydig amser, hyd oni chyflawnid nifer eu cyd-weision hefyd, a’u brodyr y rhai oedd i’w lladd fel hwythau.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A gynau gwynion a roed i bob un ohonynt; a dywedwyd wrthynt, ar iddynt orffwys eto ychydig amser, hyd oni chyflawnid rhif eu cyd-weision a'u brodyr, y rhai oedd i gael eu lladd, megis ag y cawsent hwythau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma fantell wen yn cael ei rhoi i bob un ohonyn nhw. A gofynnwyd iddyn nhw aros ychydig yn hirach, nes i nifer cyflawn y rhai oedd yn gwasanaethu gyda nhw gyrraedd, sef y brodyr a'r chwiorydd fyddai'n cael eu lladd fel cawson nhw eu lladd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna rhoddwyd i bob un ohonynt fantell wen, a dywedwyd wrthynt am orffwys eto am ychydig amser hyd nes bod nifer eu cydweision a'u cymrodyr, a oedd i'w lladd fel hwythau, yn gyflawn.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A rhoddwyd iddynt, i bob un, wisg wen, a dywedwyd wrthynt am orphwys eto am ychydig amser, hyd oni wnai eu cyd‐weision a'u brodyr, y rhai oedd ar fedr gael eu lladd fel hwythau hefyd, lanw i fyny eu rhif.