Revelation 6:12 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac mi edrycheis pan agorasei ef y chweched sel, a syna, crynfa mawr y ddayar y doedd, ar haul aeth cyn ddued a sach lien blew oc, ar lleyad oedd, yn debic y waed.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A gwelais pan agorodd y chweched sel, a daear-gryn mawr a ddigwyddodd, a’r haul a aeth yn ddu fel sachlen flew,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac edrychais pan agorodd y chweched sêl, a bu daeargryn mawr, ac aeth yr haul yn ddu fel sachliain o flew, ac aeth y lleuad i gyd fel gwaed,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac mi a edrychais pan agorodd efe y chweched sêl; ac wele, bu daeargryn mawr; a'r haul a aeth yn ddu fel sachlen flew, a'r lleuad a aeth fel gwaed;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wrth i mi wylio'r Oen yn agor y chweched sêl buodd daeargryn mawr. Trodd yr haul yn ddu fel dillad galar, a'r lleuad yn goch i gyd fel gwaed.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Edrychais pan agorodd y chweched sl. Bu daeargryn mawr, aeth yr haul yn ddu fel sachliain galar, a'r lleuad lawn yn goch fel gwaed.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A gwelais pan agorodd efe y chweched sêl, a bu daeargryn mawr; a'r haul a aeth yn ddu fel sachlen flew, a'r lleuad i gyd a aeth fel gwaed,