Revelation 6:13 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ ser o’r nef y syrthiasont yr ddayar, mal pren ffeigys yn bwrw ffeigys‐gleison pan scydwyr hi a gwynt mawr.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a’r lleuad i gyd a aeth fel gwaed, a ser y nef a syrthiasant ar y ddaear, fel y mae ffigys-bren yn bwrw ei ffigys anaddfed, pan gan wynt mawr yr ysgydwir;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a syrthiodd sêr y nen i’r ddaear fel y bwrw ffigysbren ei ffigys gleision pan ysgydwer ef gan wynt mawr,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A sêr y nef a syrthiasant ar y ddaear, fel y mae'r ffigysbren yn bwrw ei ffigys gleision, pan ei hysgydwer gan wynt mawr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma'r sêr yn dechrau syrthio fel ffigys gwyrdd yn disgyn oddi ar goeden pan mae gwynt cryf yn chwythu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Syrthiodd sr y nef i'r ddaear fel cawod o ffigys gleision oddi ar ffigysbren pan siglir ef gan wynt mawr.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
a sêr y nef a syrthiasant ar y ddaear, fel y mae y ffigysbren yn bwrw ei ffigys anaddfed, pan ei hysgydwer gan wynt mawr.