Revelation 6:15 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ brenhinoedd y ddayar, ar gwyr mawr, ar cyfoethogion, ar pen captenied, ar gvvyr cedyrn, a phob gwr caeth, a phob gwr‐rrydd, y ymgyddiasont mewn gogofey, ac ym plith creigie y mynyddey,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a brenhinoedd y ddaear, a’r pennaethiaid, a’r milwriaid, a’r goludogion, a’r rhai cedyrn, a phob caethwas a gŵr rhydd, a guddiasant eu hunain yn y gogfeydd ac ynghreigiau y mynyddoedd;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A brenhinoedd y ddaear a’r mawrion a’r cadfridogion a’r cyfoethogion a’r cryfion a phob gŵr caeth a rhydd, ymguddiasant yn yr ogofâu ac yng nghreigiau’r mynyddoedd,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A brenhinoedd y ddaear, a'r gwŷr mawr, a'r cyfoethogion, a'r pen-capteiniaid, a'r gwŷr cedyrn, a phob gŵr caeth, a phob gŵr rhydd, a ymguddiasant yn yr ogofeydd, ac yng nghreigiau'r mynyddoedd;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Aeth pawb i guddio mewn ogofâu a thu ôl i greigiau yn y mynyddoedd — brenhinoedd a'u prif swyddogion, arweinwyr milwrol, pobl gyfoethog, pobl bwerus, caethweision, dinasyddion rhydd — pawb!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A brenhinoedd y ddaear, y mawrion a'r cadfridogion, y cyfoethogion a'r cryfion, a phawb, yn gaethion ac yn rhyddion, cuddiasant eu hunain mewn ogofeydd ac yng nghreigiau'r mynyddoedd;
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A brenhinoedd y ddaear, a'r pendefigion, a'r milwriaid, a'r cyfoethogion, a'r gwŷr cedyrn, a phob caethwas a gwr rhydd, a guddiasant eu hunain yn yr ogofeydd a chreigiau y mynyddoedd;