Revelation 6:2 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac mi edrycheis, a’ syna, yr ydoedd march gwyn, ac yr ydoedd bwa gan yr vn oedd yn eiste dd arnaw, a choron y royspwyd yddo ef, ac ef aeth allan dan concwerio ac y concwery.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a gwelais, ac wele farch gwyn; a’r hwn oedd yn eistedd arno oedd a chanddo fwa: a rhoddwyd iddo goron; ac aeth allan yn gorchfygu, ac fel y gorchfygai.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac edrychais, ac wele farch gwyn, a chan yr hwn a eisteddai arno yr oedd bwa, a rhoddwyd iddo goron, ac aeth allan yn gorchfygu ac i orchfygu.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac mi a welais; ac wele farch gwyn: a'r hwn oedd yn eistedd arno, a bwa ganddo; a rhoddwyd iddo goron: ac efe a aeth allan yn gorchfygu, ac i orchfygu.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yn sydyn roedd ceffyl gwyn o'm blaen i, a marchog ar ei gefn yn cario bwa a saeth. Cafodd ei goroni, ac yna aeth i ffwrdd ar gefn y ceffyl fel un oedd yn mynd i goncro'r gelyn, yn benderfynol o ennill y frwydr.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Edrychais, ac wele geffyl gwyn; yr oedd gan ei farchog fwa; rhoddwyd iddo goron, ac fe aeth allan fel concwerwr i ennill concwest.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A gwelais, ac wele, farch gwỳn; a'r hwn oedd yn eistedd arno oedd a bwa ganddo: a rhoddwyd iddo goron; ac efe a aeth allan yn gorchfygu, ac i orchfygu.