Revelation 6:4 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
March arall aeth allan, ae livv yn goch, a gallu y rroed yr vn oedd yn eiste dd arno, y gymryd heddwch o ddiwrth y ddayar, ac y beri yddynt llað y gilydd, a’ chleddey mawr y rroed yddo ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac i’r hwn oedd yn eistedd arno y rhoddwyd cymmeryd heddwch o’r ddaear, ac fel y lladdent eu gilydd; a rhoddwyd iddo gleddyf mawr.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac aeth allan farch arall, un coch, ac i’r hwn a eisteddai arno y rhoddwyd dwyn ymaith heddwch o’r ddaear a lladd ei gilydd, a rhoddwyd iddo gleddau mawr.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac fe aeth allan farch arall, un coch: a'r hwn oedd yn eistedd arno, y rhoddwyd iddo gymryd heddwch oddi ar y ddaear, fel y lladdent ei gilydd: a rhoddwyd iddo ef gleddyf mawr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna daeth ceffyl arall allan — un fflamgoch. Cafodd y marchog ar ei gefn awdurdod i gymryd heddwch o'r byd fel bod pobl yn lladd ei gilydd. Dyma gleddyf mawr yn cael ei roi iddo.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A daeth allan geffyl arall, fflamgoch; ac i farchog hwn rhoddwyd awdurdod i ddwyn heddwch oddi ar y ddaear a pheri i bobl ladd ei gilydd, a rhoddwyd iddo gleddyf mawr.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac aeth allan farch arall, un coch: ac i'r hwn oedd yn eistedd arno y rhoddwyd iddo gymeryd heddwch o'r ddaear, ac fel y lladdent eu gilydd; a rhoddwyd iddo gleddyf mawr.