Revelation 6:5 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ phan agorysei ef y trydydd sel, mi glyweis y trydydd enifel yn dwedyd, Dabre ac edrych. A’ mi edrycheis, a syna yr oedd yno march du, a phwyse yn llaw yr vn oedd yn eiste dd arno ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A phan agorodd y drydedd sel, clywais y trydydd anifail yn dywedyd, Tyred; ac edrychais, ac wele farch du; a’r hwn oedd yn eistedd arno oedd a chanddo glorian yn ei law;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A phan agorodd y drydedd sêl, clywais y trydydd peth byw yn dywedyd: Tyred. Ac edrychais, ac wele farch du, a chan yr hwn a eisteddai arno yr oedd clorian yn ei law.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan agorodd efe y drydedd sêl, mi a glywais y trydydd anifail yn dywedyd, Tyred, a gwêl. Ac mi a welais; ac wele farch du: a'r hwn oedd yn eistedd arno, a chlorian ganddo yn ei law.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan agorodd yr Oen y drydedd sêl, clywais y trydydd creadur byw yn cyhoeddi'n uchel, “Tyrd allan!” Edrychais, ac yn sydyn roedd ceffyl du o'm blaen i, a'r marchog ar ei gefn yn dal clorian yn ei law.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan agorodd y drydedd sl, clywais y trydydd creadur byw yn dweud, "Tyrd." Edrychais, ac wele geffyl du; ac yr oedd gan ei farchog glorian yn ei law.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phan agorodd efe y drydedd sêl, clywais y trydydd creadur byw yn dywedyd, Tyred, A gwelais, ac wele, farch du; a'r hwn oedd yn eistedd arno a chlorian ganddo yn ei law.