Revelation 6:8 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac mi edrycheis, a syna, march a llivv priddlyd a Marfolaeth oedd enw yr vn oedd yn eiste arno, ac Yffern y dilynoedd ef, a gallu y roed yddynt hwy dros y bedwaredd rran or ddayar, y ladd a chleddey, ac a newyn, ac a marfolaeth, ac a ’nefeilied y ddayar.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a gwelais, ac wele, farch gwelw-las; a’r hwn oedd yn eistedd arno, yr enw iddo oedd Marwolaeth; ac Hades a ganlynai gydag ef; a rhoddwyd iddo awdurdod ar y bedwaredd ran o’r ddaear, i ladd â chleddyf ac â newyn ac â marwolaeth a thrwy fwystfilod y ddaear.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac edrychais, ac wele farch gwelw-las, a’r hwn a eisteddai arno, ei enw oedd Angau, ac Annwn oedd yn canlyn gydag ef, a rhoddwyd iddynt awdurdod ar y bedwaredd ran o’r ddaear, i ladd â chleddau ac â newyn ac â marwolaeth a chan fwystfilod y ddaear.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac mi a edrychais: ac wele farch gwelw-las: ac enw'r hwn oedd yn eistedd arno oedd Marwolaeth; ac yr oedd Uffern yn canlyn gydag ef. A rhoddwyd iddynt awdurdod ar y bedwaredd ran o'r ddaear, i ladd â chleddyf, ac â newyn, ac â marwolaeth, ac â bwystfilod y ddaear.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Edrychais, ac yn sydyn roedd ceffyl llwyd o'm blaen i! Marwolaeth oedd enw'r marchog oedd ar ei gefn, ac roedd Byd y Meirw yn dilyn yn glos y tu ôl iddo. Dyma nhw'n cael awdurdod dros chwarter y ddaear — awdurdod i ladd gyda'r cleddyf, newyn a haint, ac anifeiliaid gwylltion.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Edrychais, ac wele geffyl gwelwlwyd; ac enw ei farchog ef oedd Marwolaeth, ac yn ei ganlyn yn dynn yr oedd Hades. Rhoddwyd iddynt awdurdod ar y bedwaredd ran o'r ddaear, hawl i ladd 'r cleddyf ac newyn ac phla, a thrwy fwystfilod y ddaear.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A gwelais, ac wele, farch gwelw‐las: a'r hwn oedd yn eistedd arno, ei enw oedd Angau, ac yr oedd Hades yn canlyn gyd âg ef. A rhoddwyd iddynt awdurdod ar y bedwaredd ran o'r ddaear, i ladd â chleddyf, ac â newyn, ac â marwolaeth, a chan fwystfilod y ddaear.