Revelation 6:9 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ phan agorasey ef y bymed sel, mi weleis dan yr allor eneidiey yr rein y las am ’eir Dyw, ac am y tustolaeth yr hwn oedd ganthynt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A phan agorodd y bummed sel, gwelais tan yr allor eneidiau y rhai a laddesid oblegid gair Duw ac oblegid y dystiolaeth oedd ganddynt;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A phan agorodd y bumed sêl, gwelais dan yr allor eneidiau y rhai a laddesid o achos gair Duw ac o achos y dystiolaeth a ddygent.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan agorodd efe y bumed sêl, mi a welais dan yr allor eneidiau'r rhai a laddesid am air Duw, ac am y dystiolaeth oedd ganddynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan agorodd y bumed sêl, gwelais o dan yr allor y rhai oedd wedi cael eu lladd am gyhoeddi neges Duw yn ffyddlon.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan agorodd y bumed sl, gwelais dan yr allor eneidiau'r rhai a laddwyd ar gyfrif gair Duw ac am y dystiolaeth yr oeddent wedi ei dwyn.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phan agorodd efe y bumed sêl, gwelais tàn yr allor eneidiau y rhai a laddesid am Air Duw, ac am y Dystiolaeth a ddygasant: