Revelation 7:10 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac hwy y lefasont a lleis y wchel, dan ddwedyd, Cadwedigaeth sydd yn dyfod oddiwrth yn Dyw ni, ysydd yn eiste dd ar yr eisteðle, ac oddiwrth yr Oen.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a gwaeddant â llais mawr, gan ddywedyd, Iachawdwriaeth i’n Duw, yr Hwn sydd yn eistedd ar yr orseddfaingc, ac i’r Oen.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A gwaeddant â llais uchel, gan ddywedyd: Eiddo ein Duw sy’n eistedd ar yr orsedd, ac eiddo’r Oen, yw’r iachawdwriaeth.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yn llefain â llef uchel, gan ddywedyd, Iachawdwriaeth i'n Duw ni, yr hwn sydd yn eistedd ar yr orseddfainc, ac i'r Oen.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedden nhw'n gweiddi'n uchel: “Ein Duw sydd wedi'n hachub ni! — yr Un sy'n eistedd ar yr orsedd, a'r Oen!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oeddent yn gweiddi llais uchel: "I'n Duw ni, sy'n eistedd ar yr orsedd, ac i'r Oen y perthyn y waredigaeth!"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
a llefant â llef uchel, gan ddywedyd, Iachawdwriaeth i'n Duw ni yr hwn sydd yn eistedd ar yr Orsedd, ac i'r Oen.