Revelation 7:11 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ar h oll Angelion y safasant ogylch yr eisteddle, ac ogylch yr henafied, ar pedwar enifel, ac hwy syrthiasant gair bron yr eisteddle ar y hwynebey, ac anrrydeddasant Ddyw,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A’r holl angylion oedd yn sefyll o amgylch yr orsedd-faingc a’r henuriaid a’r pedwar anifail; a syrthiasant i lawr o flaen yr orsedd-faingc, ar eu gwynebau, ac addolasant Dduw, gan ddywedyd, Amen.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A safai’r holl angylion o gylch yr orsedd a’r henuriaid a’r pedwar peth byw, a syrthiasant ar eu hwynebau gerbron yr orsedd ac addolasant Dduw,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r holl angylion a safasant o amgylch yr orseddfainc, a'r henuriaid, a'r pedwar anifail, ac a syrthiasant gerbron yr orseddfainc ar eu hwynebau, ac a addolasant Dduw,
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd yr holl angylion yn sefyll o gwmpas yr orsedd ac o gwmpas yr arweinwyr ysbrydol a'r pedwar creadur byw. A dyma nhw'n syrthio i lawr ar eu hwynebau o flaen yr orsedd ac yn addoli Duw,
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd yr holl angylion yn sefyll o amgylch yr orsedd a'r henuriaid a'r pedwar creadur byw, a syrthiasant ar eu hwynebau gerbron yr orsedd ac addoli Duw
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r holl angelion oeddent yn sefyll o amgylch yr Orsedd ac o amgylch yr henuriaid a'r pedwar creadur byw; a hwy a syrthiasant ger bron yr Orsedd ar eu hwynebau, ac a addolasant Dduw,