Revelation 7:12 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Dan ðwedyd,. Moliant a’ gogoniant, a’ doethinep, a diolch, ac anrrydeð, a’ gallu, a’ nerth, y vo yn Dyw ni yn dragywydd,.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Y fendith a’r gogoniant a’r doethineb a’r diolch a’r anrhydedd a’r gallu a’r nerth a fyddo i’n Duw yn oes oesoedd. Amen.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
gan ddywedyd: Amen, y mawl a’r gogoniant a’r doethineb a’r diolch a’r anrhydedd a’r gallu a’r grym sydd eiddo ein Duw yn oes oesoedd. Amen.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gan ddywedyd, Amen: Y fendith, a'r gogoniant, a'r doethineb, a'r diolch, a'r anrhydedd, a'r gallu, a'r nerth, a fyddo i'n Duw ni yn oes oesoedd. Amen.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
gan ddweud: “Amen! Y mawl a'r ysblander, y doethineb a'r diolch, yr anrhydedd a'r gallu a'r nerth — Duw biau'r cwbl oll, am byth bythoedd! Amen!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
gan ddweud: "Amen. I'n Duw ni y bo'r mawl a'r gogoniant a'r doethineb a'r diolch a'r anrhydedd a'r gallu a'r nerth byth bythoedd! Amen."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
gan ddywedyd, Amen: Y fendith, a'r gogoniant, a'r doethineb, A'r diolch, a'r anrhydedd, a'r gallu, a'r nerth, Fyddo i'n Duw ni yn oes oesoedd. Amen.