Revelation 7:13 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac vn or henafied a c hwedleyawdd, dan ðwedyd wrthyf, Pwy ydynt y rrei hyn, ysyð a gowney gwnion hirion amdanynt? ac o pa le y ðaythont?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac attebodd un o’r henuriaid, gan ddywedyd wrthyf, Y rhai hyn, wedi eu gwisgo â llaes-wisgoedd gwynion, pwy ydynt; ac o ba le y daethant?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A chyfarchodd un o’r henuriaid fi a dywedyd: Y rhain a’r mentyll gwynion amdanynt, pwy ydynt, ac o b’le y daethant?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac un o'r henuriaid a atebodd, gan ddywedyd wrthyf, Pwy ydyw'r rhai hyn sydd wedi eu gwisgo mewn gynau gwynion? ac o ba le y daethant?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma un o'r arweinyddion ysbrydol yn gofyn i mi, “Wyt ti'n gwybod pwy ydy'r bobl hyn sy'n gwisgo mentyll gwynion, ac o ble maen nhw wedi dod?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gofynnodd un o'r henuriaid imi, "Y rhai hyn sydd wedi eu gwisgo mentyll gwyn, pwy ydynt ac o ble y daethant?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac un o'r henuriaid a atebodd, gan ddywedyd wrthyf, Y rhai hyn sydd wedi eu gwisgo mewn gwisgoedd gwynion, pwy ydynt, ac o ba le y daethant?