Revelation 7:14 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac mi ddwedeis wrtho ef, Arglwydd ti wddost. Ac yntey y ddwad wrthyf i, Yrrein yddynt y rrei y ddaythont allan o drafael mawr, ac y olchasont y gowne‐hyrion, ac y wneythont y gowney‐hyrion yn wnion yn gwaed yr Oen.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A dywedais wrtho, Fy arglwydd, tydi a wyddost. A dywedodd wrthyf, Y rhai hyn yw’r rhai sy’n dyfod allan o’r gorthrymder mawr; a golchasant eu llaes-wisgoedd, a channasant hwynt yngwaed yr Oen;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Dywedais innau wrtho: F’arglwydd, tydi sy’n gwybod. Dywedodd yntau wrthyf: Dyma’r rhai sy’n dyfod allan o’r blinfyd mawr, ac a olchodd eu mentyll a’u cannu yng ngwaed yr Oen.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac mi a ddywedais wrtho ef, Arglwydd, ti a wyddost. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Y rhai hyn yw'r rhai a ddaethant allan o'r cystudd mawr, ac a olchasant eu gynau, ac a'u canasant hwy yng ngwaed yr Oen.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Na, ti sy'n gwybod, syr”, meddwn innau. Yna meddai, “Dyma'r bobl sydd wedi dioddef yn y creisis mawr olaf. Maen nhw wedi golchi eu dillad yn lân yng ngwaed yr Oen.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedais wrtho, "Ti sy'n gwybod, f'arglwydd." Meddai yntau wrthyf, "Dyma'r rhai sy'n dod allan o'r gorthrymder mawr; y maent wedi golchi eu mentyll a'u cannu yng ngwaed yr Oen.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A dywedais wrtho, Fy arglwydd, ti a wyddost. A dywedodd wrthyf, Y rhai hyn yw y rhai sydd yn dyfod allan o'r Gorthrymder mawr, ac a olchasant eu gwisgoedd ac a'u cànnasant yng ngwaed yr Oen.