Revelation 7:15 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Am hyny y maent gair bron eisteddle Dyw, ac yny wasnaethy ef yn demel dydd a nos, ar vn ysyð yn eiste ar yr eisteddle, y dric yn y plith hwynt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
o achos hyn y maent o flaen gorsedd-faingc Duw, ac Ei wasanaethu y maent ddydd a nos yn Ei deml: a’r Hwn sydd yn eistedd ar yr orsedd-faingc a dabernacla drostynt;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Oherwydd hynny y maent o flaen gorsedd Duw, a gwasnaethant ef ddydd a nos yn ei gysegr, a’r hwn sy’n eistedd ar yr orsedd a babella drostynt.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Oherwydd hynny y maent gerbron gorseddfainc Duw, ac yn ei wasanaethu ef ddydd a nos yn ei deml: a'r hwn sydd yn eistedd ar yr orseddfainc a drig yn eu plith hwynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyna pam maen nhw yma'n sefyll o flaen gorsedd Duw, ac yn ei wasanaethu yn ei deml ddydd a nos. Bydd yr Un sy'n eistedd ar yr orsedd yn eu cadw nhw'n saff.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Am hynny, y maent o flaen gorsedd Duw, ac yn ei wasanaethu ddydd a nos yn ei deml, a bydd yr hwn sy'n eistedd ar yr orsedd yn lloches iddynt.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
O herwydd hyn y maent ger bron Gorsedd Duw, ac yn ei wasanaethu ddydd a nos yn ei Gysegr; a'r hwn sydd yn eistedd ar yr Orsedd a leda ei babell drostynt.