Revelation 7:2 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac mi weleis Angel arall yn dyfod y vynydd o ddiwrth y Dwyrein, ac yr rydoedd sel Dyw byw gantho, ac ef y lefoedd a lleis ywchel ar y pedwar Angel y rrein y rroyspwydd gallu y ddrygu’r ddayar, a’r mor,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A gwelais angel arall yn esgyn o godiad haul, a chanddo sel y Duw Byw; a gwaeddodd â llais mawr wrth y pedwar angel, i’r rhai y rhoddwyd niweidio’r ddaear a’r môr,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A gwelais angel arall yn esgyn o’r dwyrain, a chanddo sêl y Duw byw, a gwaeddodd â llais uchel ar y pedwar angel y rhoddwyd iddynt niweidio’r ddaear a’r môr,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac mi a welais angel arall yn dyfod i fyny oddi wrth godiad haul, a sêl y Duw byw ganddo. Ac efe a lefodd â llef uchel ar y pedwar angel, i'r rhai y rhoddasid gallu i ddrygu'r ddaear a'r môr,
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wedyn dyma fi'n gweld angel arall yn codi o gyfeiriad y dwyrain. Roedd sêl y Duw byw ganddo, a gwaeddodd yn uchel ar y pedwar angel oedd wedi cael y gallu i wneud niwed i'r tir a'r môr:
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A gwelais angel arall yn esgyn o godiad haul, a chanddo sl y Duw byw. Gwaeddodd llais uchel ar y pedwar angel y rhoddwyd iddynt awdurdod i niweidio'r ddaear a'r mr,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A gwelais angel arall yn esgyn o godiad haul, a chanddo sêl y Duw byw. Ac efe a lefodd â llef uchel ar y pedwar angel, i'r rhai y rhoddesid i ddrygu y ddaear a'r môr,