Revelation 7:3 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Dan ddwedyd, Na ddrygwch y ðayar, na’r mor, nar coed, nes yni sely gwasnaethwyr yn Dyw ni yn y talceni.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
gan ddywedyd, Na niweidiwch y ddaear, na’r môr, na’r preniau, nes darfod i ni selio gweision ein Duw, ar eu talcennau.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
gan ddywedyd: Na niweidiwch na’r ddaear na’r môr na’r coed, nes inni selio gweision ein Duw ar eu talcennau.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gan ddywedyd, Na ddrygwch y ddaear, na'r môr, na'r prennau, nes darfod i ni selio gwasanaethwyr ein Duw ni yn eu talcennau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Peidiwch gwneud niwed i'r tir na'r môr na'r coed nes i ni roi marc gyda sêl Duw ar dalcen y rhai sy'n ei wasanaethu.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a dywedodd: "Peidiwch niweidio na'r ddaear na'r mr na'r coed nes inni selio gweision ein Duw ar eu talcennau."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
gan ddywedyd, Na ddrygwch y ddaear na'r môr, na'r prennau, hyd nes y seliwn weision ein Duw ni ar eu talcennau.