Revelation 7:4 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac mi glyweis rrif y rrei y selwyd, ac yroydent gwedy sely pedeir a seith vgeinmil o holl cenedlaythey meybyon yr Israel.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chlywais nifer y rhai a seliwyd, cant a phedair a deugain o filoedd wedi eu selio, allan o bob llwyth meibion Israel:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A chlywais nifer y rhai a seliwyd, cant a phedwar deg a phedwar o filoedd, wedi eu selio o bob llwyth o feibion Israel:
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac mi a glywais nifer y rhai a seliwyd: yr oedd wedi eu selio gant a phedair a deugain o filoedd o holl lwythau meibion Israel.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna clywais faint o bobl oedd i gael eu marcio gyda'r sêl: cant pedwar deg pedwar o filoedd o bobl llwythau Israel:
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A chlywais rif y rhai a seliwyd, cant pedwar deg a phedair o filoedd wedi eu selio, o bob un o lwythau plant Israel.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A chlywais nifer y rhai a seliwyd, cant a phedair a deugain o filoedd wedi eu selio, allan o bob llwyth o feibion Israel.