Revelation 7:9 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yn ol hyn mi edrycheis, a’ syna rrif mawr, yr hwn ny alley neb y rrifo, or holl nasioney a’ chenedlaythey, a’ phobloedd, ac ieythoedd, yn sefyll gair bron yr eisteddle, a’ chair bron yr Oen, a gowney gwnion hirion amdanynt, a’ phalmwydd yny dwylaw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ar ol hyn gwelais, ac wele dyrfa fawr, yr hon ei rhifo ni allai neb, allan o bob cenedl a llwythau a phobloedd a thafodau, yn sefyll o flaen yr orsedd-faingc a cher bron yr Oen, wedi ei gwisgo mewn llaes-wisgoedd gwynion, a phalmwydd yn eu dwylaw;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Wedi hyn edrychais, ac wele dyrfa fawr na allai neb ei rhifo, o bob cenedl a llwythau a phobloedd ac ieithoedd, yn sefyll o flaen yr orsedd ac o flaen yr Oen, a mentyll gwynion amdanynt, a phalmwydd yn eu dwylo.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Wedi hyn mi a edrychais; ac wele dyrfa fawr, yr hon ni allai neb ei rhifo, o bob cenedl, a llwythau, a phobloedd, ac ieithoedd, yn sefyll gerbron yr orseddfainc, a cherbron yr Oen, wedi eu gwisgo mewn gynau gwynion, a phalmwydd yn eu dwylo;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Edrychais eto ac roedd tyrfa enfawr o bobl o'm blaen i — tyrfa mor aruthrol fawr, doedd dim gobaith i neb hyd yn oed ddechrau eu cyfri! Roedden nhw yn dod o bob cenedl, llwyth, hil ac iaith, ac yn sefyll o flaen yr orsedd ac o flaen yr Oen. Roedden nhw'n gwisgo mentyll gwynion, ac roedd canghennau palmwydd yn eu dwylo.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ar l hyn edrychais, ac wele dyrfa fawr na allai neb ei rhifo, o bob cenedl a'r holl lwythau a phobloedd ac ieithoedd, yn sefyll o flaen yr orsedd ac o flaen yr Oen, wedi eu gwisgo mentyll gwyn, a phalmwydd yn eu dwylo.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Wedi y pethau hyn gwelais, ac wele, dyrfa fawr, yr hon ni allai neb ei rhifo, allan o bob cenedl a llwythau a phobloedd ac ieithoedd, yn sefyll ger bron yr Orsedd a cher bron yr Oen, wedi eu gwisgo mewn gwisgoedd gwynion, a phalmwydd yn eu dwylaw;