Revelation 8:10 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ar trydeð Angel y ganoedd y trwmpet, a seren vawr y syrthioedd or nef, yn llosgi mal toris, ac ef y syrthioedd y drayan yr afonydd, ac y ffynhoney y dyfroedd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A’r trydydd angel a udganodd, a syrthiodd o’r nef seren fawr yn llosgi fel llusern; a syrthiodd ar draian yr afonydd, ac ar ffynhonnau’r dyfroedd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac utganodd y trydydd angel; yna syrthiodd o’r nef seren fawr yn llosgi fel fflamdorch, a syrthiodd ar draean yr afonydd ac ar ffynhonnau’r dyfroedd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r trydydd angel a utganodd; a syrthiodd o'r nef seren fawr yn llosgi fel lamp, a hi a syrthiodd ar draean yr afonydd, ac ar ffynhonnau'r dyfroedd;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma'r trydydd angel yn canu ei utgorn, a syrthiodd seren enfawr o'r awyr. Roedd yn llosgi'n fflamau wrth ddisgyn. Syrthiodd ar un rhan o dair o'r afonydd a'r ffynhonnau dŵr.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Seiniodd y trydydd angel ei utgorn. Yna syrthiodd o'r nef seren fawr yn llosgi fel ffagl; syrthiodd ar draean o'r afonydd ac ar ffynhonnau'r dyfroedd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r trydydd angel a udganodd, a syrthiodd o'r nef seren fawr yn llosgi fel ffagl, a hi a syrthiodd ar drydedd ran yr afonydd ac ar ffynhonnau y dyfroedd;