Revelation 8:11 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac enw’r seren a elwir wermwd: am hyny trydedd ran y dyfredd aethant yn wermod, a llawer o wyr y vyont veirw, o vveith y dyfredd hynny, can ys y gwneythur hwynt yn chwerw on.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac enw’r seren a elwir Wermod; ac aeth traian y dyfroedd yn wermod, a llawer o ddynion a fuant feirw gan y dyfroedd, gan mai yn chwerwon y’u gwnaethpwyd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac enw’r seren yw Wermod; a thrôdd traean y dyfroedd yn wermod, a bu farw lawer o bobl o’r dyfroedd oherwydd eu chwerwi.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac enw'r seren a elwir Wermod: ac aeth traean y dyfroedd yn wermod; a llawer o ddynion a fuant feirw gan y dyfroedd, oblegid eu myned yn chwerwon.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
‛Wermod‛ oedd enw'r seren, a trodd un rhan o dair o'r dŵr yn chwerw. Y canlyniad oedd fod llawer o bobl wedi marw am fod y dŵr wedi troi'n chwerw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Enw'r seren yw Wermod, a throdd traean o'r dyfroedd yn wermod, a bu farw llawer o bobl o achos chwerwi'r dyfroedd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ac enw y seren a elwir Wermod, a thrydedd ran y dyfroedd a aeth yn wermod; a llawer o ddynion a fuant feirw gan y dyfroedd, oblegyd eu myned yn chwerwon.