Revelation 8:12 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ar pedwerydd Angel y ganoedd y trwmpet, a tharo y wneythpwyd trayan yr hayl, a’ thrayan y lleyad, a’ thrayan y ser, nes towylly y trayan hwynt: a’ tharo y wneythpwyd y dydd, mal na alley y thrayan hi g oleyo. ac yn yr vn modd y nos.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A’r pedwerydd angel a udganodd, a tharawyd traian yr haul, a thraian y lleuad, a thraian y ser, fel y tywyllid eu traian; ac na fyddai i’r dydd lewyrchu, am ei draian; ac y nos yr un ffunud.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac utganodd y pedwerydd angel; yna trawyd traean yr haul a thraean y lloer a thraean y sêr, fel y tywyllwyd eu traean hwynt ac nad ymddangosodd y dydd draean ohono, na’r nos yr un modd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r pedwerydd angel a utganodd; a thrawyd traean yr haul, a thraean y lleuad, a thraean y sêr; fel y tywyllwyd eu traean hwynt, ac ni lewyrchodd y dydd ei draean, a'r nos yr un ffunud.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma'r pedwerydd angel yn canu ei utgorn, a dyma un rhan o dair o'r haul a'r lleuad a'r sêr yn cael eu taro. Dyma un rhan o dair ohonyn nhw'n troi'n dywyll. Doedd dim golau am un rhan o dair o'r dydd, na'r nos chwaith.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Seiniodd y pedwerydd angel ei utgorn. Yna trawyd traean o'r haul a thraean o'r lleuad a thraean o'r sr, nes tywyllu traean ohonynt, ac ni bu dim golau am draean o'r dydd, a'r un modd am draean o'r nos.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r pedwerydd angel a udganodd, a tharawyd trydedd ran yr haul, a thrydedd ran y lleuad, a thrydedd ran y sêr, fel y tywyllid eu trydedd ran hwynt, ac na thywynnai y dydd am ei drydedd ran, a'r nos yr un ffunud.