Revelation 8:13 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac mi edrycheis, ac y glyweis Angel yn hedfan trwy ganol y nef, dan ðwedyd a lleis ywchel, Gwae, gwae, gwae y ddeilied y ddayar, rrac lleisiey ys yn ol y trwmpedey y tri Angel, y rrein oyddent etto y gany‐trwmpede.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A gwelais a chlywais eryr yn ehedeg ynghanol y nef, yn dywedyd â llef fawr, Gwae, gwae, gwae, i’r rhai sy’n trigo ar y ddaear, o herwydd lleisiau eraill yr udgorn, o eiddo’r tri angel y sydd ar fedr udganu.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac edrychais a chlywais eryr yn ehedeg yn entrych nef yn dywedyd â llais mawr: Gwae, gwae, gwae ar drigolion y ddaear oherwydd gweddill chwythiadau utgorn y tri angel sydd ar utganu.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac mi a edrychais, ac a glywais angel yn ehedeg yng nghanol y nef, gan ddywedyd â llef uchel, Gwae, gwae, gwae, i'r rhai sydd yn trigo ar y ddaear, rhag lleisiau eraill utgorn y tri angel, y rhai sydd eto i utganu!
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wedyn gwelais eryr yn hedfan yn uchel yn yr awyr, a'i glywed yn gweiddi'n uchel: “Gwae! Gwae! Gwae pawb sy'n perthyn i'r ddaear, o achos beth sy'n mynd i ddigwydd pan fydd y tri angel arall yn canu eu hutgyrn!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Edrychais, a chlywais eryr yn hedfan yng nghanol y nef ac yn llefain llais uchel, "Gwae, gwae, gwae drigolion y ddaear o achos seiniau'r utgyrn eraill y mae'r tri angel eto i'w seinio!"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A gwelais a chlywais eryr yn ehedeg yng nghanol y nef, gan ddywedyd â llef uchel, Gwae, gwae, gwae, i'r rhai sydd yn trigo ar y ddaear, o herwydd lleisiau eraill udgyrn y tri angel, y rhai sydd eto i udganu.