Revelation 8:3 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno Angel arall y ddoyth ac y safoedd gair bron yr allor, a senser aur gantho, a’ llawer o arogley y rroed yddo ef, y offrymy a gweðie yr oll Seint, ar yr allor aur, yr hwn ydyw gair bron yr eisteddle.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac angel arall a ddaeth, a safodd ar yr allor, a chanddo thusser aur; a rhoddwyd iddo arogl-darth lawer fel y’i rhoddai at weddïau y saint oll, ar yr allor aur oedd o flaen yr orsedd-faingc.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A daeth angel arall a safodd wrth yr allor, a chanddo thuser aur, a rhoddwyd iddo arogl-darth lawer i’w gyflwyno gyda gweddïau’r holl saint ar yr allor aur o flaen yr orsedd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac angel arall a ddaeth, ac a safodd gerbron yr allor, a thuser aur ganddo: a rhoddwyd iddo arogl-darth lawer, fel yr offrymai ef gyda gweddïau'r holl saint ar yr allor aur, yr hon oedd gerbron yr orseddfainc.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma angel arall yn dod, ac yn mynd i sefyll wrth yr allor. Roedd ganddo lestr aur yn ei ddwylo i losgi arogldarth. Dyma bentwr o arogldarth yn cael ei roi iddo, i'w losgi ar yr allor aur o flaen yr orsedd, ac i'w gyflwyno i Dduw gyda gweddïau ei bobl.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Daeth angel arall, a safodd wrth yr allor thuser aur yn ei law. Rhoddwyd iddo ddigonedd o arogldarth i'w offrymu gyda gweddau'r holl saint ar yr allor aur oedd o flaen yr orsedd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac angel arall a ddaeth, ac a safodd wrth yr allor, a chanddo thuser aur; a rhoddwyd iddo arogl‐darth lawer, fel y rhoddai ef at weddïau yr holl saint ar yr allor aur ger bron yr Orsedd.