Revelation 8:4 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A mwg yr erogley ynghyd a gweddie yr Saint, y ddrychafysant gair bron Dyw, o law yr Angel.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac esgynodd mwg yr arogl-darth gyda gweddïau’r saint, o law’r angel, ger bron Duw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac esgynnodd mwg yr arogl-darth gyda gweddïau’r saint o law yr angel gerbron Duw.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac fe aeth mwg yr arogl-darth gyda gweddïau'r saint, o law yr angel i fyny gerbron Duw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd mwg yr arogldarth a gweddïau pobl Dduw yn codi o law yr angel at Dduw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
O law yr angel esgynnodd mwg yr arogldarth gerbron Duw gyda gweddau'r saint.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A mwg yr arogl‐darth gyda gweddiau y saint a esgynnodd o law yr angel i fyny ger bron Duw.