Revelation 8:7 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ar Angel cynta y ganoedd y trwmpet, ac yr ydoedd ceseir a’ than, gwedy cymysgu, a gwaed ac hwy y vwrwyd yr ddayar, a’ thrayan y coed y losgwyd, ar holl gwellt glas y losgwyd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A’r cyntaf a udganodd, a bu cenllysg a thân wedi eu cymmysgu â gwaed, a bwriwyd hwy ar y ddaear; a thraian y ddaear a lwyr-losgwyd, a thraian y coed a lwyr-losgwyd, a’r holl laswellt a lwyr-losgwyd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac utganodd y cyntaf; yna bu cenllysg a thân cymysgedig â gwaed, a bwriwyd i’r ddaear, a llosgwyd traean y ddaear, a llosgwyd traean y coed, a llosgwyd pob gwelltyn glas.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r angel cyntaf a utganodd; a bu cenllysg a thân wedi eu cymysgu â gwaed, a hwy a fwriwyd i'r ddaear: a thraean y prennau a losgwyd, a'r holl laswellt a losgwyd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma'r angel cyntaf yn canu ei utgorn, a dyma genllysg a thân wedi ei gymysgu â gwaed yn cael ei hyrddio ar y ddaear. Cafodd un rhan o dair o'r ddaear ei llosgi, a'r coed a'r holl blanhigion yn y rhan yna o'r byd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Seiniodd y cyntaf ei utgorn. Yna daeth cenllysg a thn, yn gymysg gwaed, ac fe'u bwriwyd ar y ddaear. Llosgwyd traean o'r ddaear, llosgwyd traean o'r coed, llosgwyd pob porfa las.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r Cyntaf a udganodd, a bu cenllysg a thân wedi eu cymysgu â gwaed, a hwy a fwriwyd i'r ddaear: a thrydedd ran y ddaear a lwyr‐losgwyd, a thrydedd ran y coed a lwyr‐losgwyd, a'r holl laswellt a lwyr‐losgwyd.