Revelation 9:1 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
AR pymed Angel y ganoeð ar trwmped, ac mi welais seren yn cwympo or nef yr ddayar, ac yddo ef y rrowd agoriad y pwll heb waylod.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A’r pummed angel a udganodd, a gwelais seren o’r nef, wedi syrthio ar y ddaear; a rhoddwyd iddo agoriad pydew affwys:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac utganodd y pumed angel; yna gwelais seren wedi syrthio o’r nef i’r ddaear, a rhoddwyd iddo allwedd pwll Annwn.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r pumed angel a utganodd; ac mi a welais seren yn syrthio o'r nef i'r ddaear: a rhoddwyd iddo ef agoriad y pydew heb waelod.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma'r pumed angel yn canu ei utgorn, a gwelais seren oedd wedi syrthio o'r awyr i'r ddaear. Dyma allwedd y pwll sy'n arwain i'r pydew diwaelod yn cael ei roi iddi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Seiniodd y pumed angel ei utgorn. Yna gwelais seren wedi syrthio o'r nef i'r ddaear, a rhoddwyd iddi allwedd i bwll y dyfnder.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r pumed angel a udganodd, a gwelais seren wedi syrthio o'r nef i'r ddaear; a rhoddwyd iddo ef agoriad pydew Annwn.