Revelation 9:14 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yn dywedyd yr chweched Angel, oeð ar trwmpet gantho, Gillwng y pedwar Angel, y rrein ydynt yn rrwym yn yr afon vawr Euphrates.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
yr hon sydd ger bron Duw, yn dywedyd wrth y chweched angel, yr hwn oedd a chanddo yr udgorn, Gollwng yn rhydd y pedwar angel y sydd wedi eu rhwymo wrth yr afon fawr Euphrates.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
yn dywedyd wrth y chweched angel a chanddo’r utgorn: Gollwng y pedwar angel sy’n rhwym wrth yr afon fawr, Ewffrates.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yn dywedyd wrth y chweched angel, yr hwn oedd â'r utgorn ganddo, Gollwng yn rhydd y pedwar angel sydd yn rhwym yn yr afon fawr Ewffrates.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dwedodd y llais wrth y chweched angel oedd ag utgorn, “Gollwng yn rhydd y pedwar angel sydd wedi eu rhwymo wrth afon fawr Ewffrates.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
yn dweud wrth y chweched angel, yr un 'r utgorn ganddo: "Gollwng yn rhydd y pedwar angel sydd wedi eu rhwymo ar lan yr afon fawr, afon Ewffrates."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
yr hon sydd ger bron Duw, un yn dywedyd wrth y chweched angel, yr hwn oedd â'r udgorn ganddo, Gollwng yn rhydd y pedwar angel sydd yn rhwym wrth yr afon fawr Euphrates.