Revelation 9:15 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ar pedwar Angel y ellyngwyd, y rrein y ymbarattowdd yn erbyn awr, yn erbyn diwrnod, yn erbyn mis, ac yn erbyn blwyddyn y ladd trayan y dynion.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A gollyngwyd y pedwar angel, y rhai oeddynt wedi eu parottoi am yr awr a diwrnod a mis a blwyddyn, fel y lladdent y traian o ddynion.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A gollyngwyd y pedwar angel a baratoesid erbyn yr awr, y dydd, y mis, y flwyddyn, i ladd y traean o ddynion.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A gollyngwyd y pedwar angel, y rhai oedd wedi eu paratoi erbyn awr, a diwrnod, a mis, a blwyddyn, fel y lladdent y traean o'r dynion.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma'r pedwar angel yn cael eu gollwng yn rhydd. Roedden nhw wedi eu cadw ar gyfer yr union awr hon ar yr union ddyddiad hwn, i ladd un rhan o dair o'r ddynoliaeth.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Rhyddhawyd y pedwar angel, a oedd wedi eu dal yn barod ar gyfer yr awr a'r dydd a'r mis a'r flwyddyn, i ladd traean o'r ddynolryw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A gollyngwyd y pedwar angel, y rhai oeddent wedi eu parotoi erbyn yr awr a dydd a mis a blwyddyn, fel y lladdent drydedd ran y dynion.