Revelation 9:17 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac mal hyn y gweleis i y mairch mewn gweledigaeth, ac yr rydoedd gan rrei oeddent yn eiste arnyt, lurigae tāllyd, ac o livv’r hyacinct a brwmstan, a’ pheneyr mairch oeddent megis penney llewod: ac yn mynd allan oe geneye, tan a’ mwg a’ brwmstan,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac fel hyn y gwelais y meirch yn y weledigaeth, a’r rhai oedd yn eistedd arnynt a chanddynt lurigau o liw tân a lliw huacinth a lliw brwmstan; a phennau’r meirch, fel pennau llewod; ac allan o’u safnau y mae tân yn dyfod, a mwg, a brwmstan.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac fel hyn y gwelais yn y weledigaeth y meirch a’r sawl a eisteddai arnynt, — yr oedd ganddynt lurigau o liw tân a huacinth a brwmstan; a phennau’r meirch fel pennau llewod, ac o’u safnau daw allan dân a mwg a brwmstan.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac fel hyn y gwelais i'r meirch yn y weledigaeth, a'r rhai oedd yn eistedd arnynt, a chanddynt lurigau tanllyd, ac o liw hyacinth a brwmstan: a phennau'r meirch oedd fel pennau llewod; ac yr oedd yn myned allan o'u safnau, dân, a mwg, a brwmstan.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma sut olwg oedd ar y ceffylau a'r marchogion a welais i: Roedd llurig eu harfwisg yn goch fel tân, yn las tywyll ac yn felyn fel sylffwr. Roedd pennau'r ceffylau fel pennau llewod, ac roedd tân a mwg a brwmstan yn dod allan o'u cegau.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn fy ngweledigaeth dyma'r olwg a welais ar y ceffylau a'u marchogion: yr oedd eu dwyfronneg yn fflamgoch a glas a melyn, a'u ceffylau phennau ganddynt fel llewod, a thn a mwg a brwmstan yn dod allan o'u safnau.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac fel hyn y gwelais y meirch yn y weledigaeth, a'r rhai oedd yn eistedd arnynt, a chanddynt lurigau o liw tân a glas‐ddu a melyn; ac y mae pennau y meirch fel pennau llewod; ac y mae yn dyfod allan o'u safnau dân a mwg a brwmstan.