Revelation 9:18 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ thrayan y dynion y las gan y tri yma, ’sef gan y tan ar mwg, a’r brwmstan, y rrein y ðoyth allan oe geneue hwynt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chan y tri phla hyn y llâs traian dynion, gan y tan a’r mwg a’r brwmstan a oedd yn dyfod allan o’u safnau;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Gan y tri phla hyn y lladdwyd y traean o ddynion, gan y tân a’r mwg a’r brwmstan sy’n dyfod allan o’u safnau hwynt.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gan y tri hyn y llas traean y dynion, gan y tân, a chan y mwg, a chan y brwmstan, oedd yn dyfod allan o'u safnau hwynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Cafodd un rhan o dair o'r ddynoliaeth eu lladd gan y plâu, sef y tân, y mwg a'r brwmstan oedd yn dod allan o'u cegau.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gan y tri phla hyn fe laddwyd traean o'r ddynolryw, hynny yw, gan y tn a'r mwg a'r brwmstan oedd yn dod allan o'u safnau.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Gan y tri phla hyn y lladdwyd trydedd ran y dynion, gan y tân a chan y mwg a chan y brwmstan oedd yn dyfod allan o'u safnau hwynt.