Revelation 9:19 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys y gallu hwynt ’sydd yn y geneyey, ac yny cynffoney: can ys y cynffoney hwynt oeddent debic y seirph, a pheney ganthynt, ar rrei hyn yrroeddent yn drygu.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys gallu’r meirch, yn eu safnau y mae, ac yn eu cynffonnau, canys eu cynffonnau oeddynt debyg i seirph; a chanddynt bennau; ac â hwynt y niweidiant.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys y mae gallu’r meirch yn eu safn ac yn eu cynffonnau, a’u cynffonnau sydd debyg i seirff, a chanddynt bennau, ac â’r rheini y gwnânt niwed.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys eu gallu hwy sydd yn eu safn, ac yn eu cynffonnau: canys y cynffonnau oedd debyg i seirff, a phennau ganddynt; ac â'r rhai hynny y maent yn drygu.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond roedd gan y ceffylau rym yn eu cynffonnau hefyd. Roedd eu cynffonnau yn debyg i nadroedd gyda phennau oedd yn gallu brathu ac anafu pobl.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd gallu'r ceffylau yn eu safnau ac yn eu cynffonnau, oherwydd yr oedd gan eu cynffonnau bennau, fel seirff, ac 'r rhain yr oeddent yn peri niwed.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys gallu y meirch sydd yn eu safn, ac yn eu cynffonnau; canys eu cynffonnau oedd debyg i seirph, a phennau ganddynt; ac â'r rhai hynny y maent yn niweidio.