Revelation 9:20 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ relyw or dynion ny las gan y plae hyn, ny chymersont etyfeyrwch am weithredoedd y dwylaw y beydiaw ac addoli cythreylied, a delwey aur ac arian, a’ phres, a’ mein, a’ phrene, yrren ac ny allant g weled, na chlywed na cherdded.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A’r gweddill o ddynion, y rhai ni laddwyd gan y plaau hyn, nid edifarhasant oddiwrth weithredoedd eu dwylaw fel nad addolent gythreuliaid a’r eulunod aur ac arian a phres a maen a phren, y rhai ni allant na gweled na chlywed na rhodio.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A’r gweddill o ddynion, nas lladdwyd gan y plâu hyn, nid edifarhasant am weithredoedd eu dwylo fel ag i beidio ag addoli ’r demoniaid a ’r delwau aur ac arian a phres a cherrig a choed, y rhai na allant na gweled na chlywed na cherdded;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r dynion eraill, y rhai ni laddwyd gan y plâu hyn, nid edifarhasant oddi wrth weithredoedd eu dwylo eu hun, fel nad addolent gythreuliaid, a delwau aur, ac arian, a phres, a main, a phrennau, y rhai ni allant na gweled, na chlywed, na rhodio:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond wnaeth gweddill y ddynoliaeth ddim troi cefn ar eu drygioni (sef y bobl hynny wnaeth y plâu ddim eu lladd). Roedden nhw'n dal i addoli cythreuliaid ac eilunod o aur, arian, efydd, carreg a phren — eilunod sy'n methu gweld na chlywed na cherdded!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac am y gweddill o'r ddynolryw, nas lladdwyd gan y plu hyn, ni bu'n edifar ganddynt am yr hyn a luniodd eu dwylo; ac ni pheidiasant ag addoli'r cythreuliaid a'r delwau aur ac arian a phres a cherrig a phren, pethau na allant na gweld na chlywed na cherdded.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r gweddill o ddynion, y rhai ni laddwyd gan y pläau hyn, nid edifarhasant am weithredoedd eu dwylaw, fel nad addolent gythreuliaid ac eilunod o aur, ac o arian, ac o bres, ac o faen, ac o goed; y rhai ni allant na gweled, na chlywed, na rhodio.