Revelation 9:4 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ gorchymyn y rroed yddynt, na waethent g wellt y ddayar, na dim glas, nac vn pren: ond yn inyc y dyniō oyðent heb sel Ddyw yny talceni.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a dywedwyd wrthynt na niweidient laswellt y ddaear, na dim sydd wyrddlas, nac un pren, ond yn unig y dynion y sydd heb ganddynt sel Duw ar eu talcennau:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac archwyd iddynt na niweidient na gwellt y ddaear na dim gwyrddlas nac un goeden, eithr yn unig y bobl nad oes ganddynt sêl Duw ar eu talcennau.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A dywedwyd wrthynt, na wnaent niwed i laswellt y ddaear, nac i ddim gwyrddlas, nac i un pren; ond yn unig i'r dynion oedd heb sêl Duw yn eu talcennau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma nhw'n cael gorchymyn i beidio gwneud niwed i'r glaswellt a'r planhigion a'r coed. Dim ond y bobl hynny oedd heb eu marcio ar eu talcennau gyda sêl Duw oedd i gael niwed.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedwyd wrthynt am beidio niweidio na phorfa'r ddaear na'r un planhigyn na choeden, ond yn unig y bobl nad oedd sl Duw ganddynt ar eu talcennau.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A dywedwyd wrthynt na niweidient laswellt y ddaear, na dim sydd wyrddlas, nac un pren, ond yn unig y cyfryw ddynion sydd heb ganddynt sêl Duw ar eu talcennau.