Revelation 9:5 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ gorchymyn y rroed yddynt na ladden y rreini, ond yddynt anesmwytho arnynt pym mis a’ bod poen y hwynt mal poen y vei o vvaith scorpion, pan darfyddei yddo brathy duyn.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a rhoddwyd iddynt na laddent hwynt, ond iddynt gael eu poeni bum mis; a’u poen oedd fel poen ysgorpion pan darawo ddyn.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A rhoddwyd arnynt nid eu lladd, eithr eu harteithio bum mis; a’u hartaith oedd fel artaith ysgorpion pan fratho ddyn.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A rhoddwyd iddynt na laddent hwynt, ond bod iddynt eu blino hwy bum mis: ac y byddai eu gofid hwy fel gofid oddi wrth ysgorpion, pan ddarfyddai iddi frathu dyn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond doedden nhw ddim i fod i ladd y bobl hynny, dim ond eu poenydio nhw am bum mis (Roedd y boen yn debyg i'r boen mae rhywun sydd wedi cael pigiad gan sgorpion yn ei ddioddef).
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gorchmynnwyd iddynt beidio 'u lladd, ond eu poenydio am bum mis; a'u poenedigaeth hwy oedd fel poenedigaeth ysgorpion yn brathu rhywun.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A rhoddwyd iddynt na laddent hwynt, ond bod iddynt gael eu dirboeni bum mis; a'u dirboeniad hwy oedd fel dirboeniad ysgorpion, pan fratho efe ddyn.