Revelation 9:6 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac yn dyddiey hyny y dynion y geisiant marfolaeth, ac ny chywrddant a hi, ac y chwenychant veirw a marfolaeth y gila rracddynt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac yn y dyddiau hyny y cais dynion farwolaeth, ac ni chânt mo’ni; a chwennychant farw, ond ffoi y mae marwolaeth oddiwrthynt.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac yn y dyddiau hynny y cais dynion farwolaeth ac nis cânt er dim, a deisyfant farw, a ffy marwolaeth oddi wrthynt.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yn y dyddiau hynny y cais dynion farwolaeth, ac nis cânt; ac a chwenychant farw, a marwolaeth a gilia oddi wrthynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd pobl eisiau marw, ond yn methu marw; byddan nhw'n dyheu am gael marw, ond bydd marwolaeth yn dianc o'u gafael nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn y dyddiau hynny bydd pobl yn chwilio am farwolaeth, ond ni ddnt o hyd iddi, yn chwenychu marw, ond bydd marwolaeth yn ffoi rhagddynt.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac yn y dyddiau hynny y cais y dynion farwolaeth, ac nis cânt mewn un modd; a chwenychant farw, ond ffoi y mae marwolaeth oddi wrthynt.