Revelation 9:7 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ llyn y lacustae oedd debic y veirch gwedy paratei y rryvel, ac yr oedd ar y peney mal coronae yn debic y aur ae, hwynebey hwynebe yn debic y dynion.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A dulliau y locustiaid oeddynt debyg i feirch wedi eu parottoi i ryfel; ac ar y pennau yr oedd fel pe bai coronau tebyg i aur; a’u gwynebau fel gwynebau dynion:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac o ran ymddangosiad tebyg oedd y locustiaid i feirch parod i ryfel, ac ar eu pennau megis coronau tebyg i aur, a’u hwynebau fel wynebau dynion,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A dull y locustiaid oedd debyg i feirch wedi eu paratoi i ryfel; ac yr oedd ar eu pennau megis coronau yn debyg i aur, a'u hwynebau fel wynebau dynion.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd y locustiaid yn edrych yn debyg i geffylau yn barod i fynd i frwydr, ac roedden nhw'n gwisgo rhywbeth tebyg i goron aur ar eu pennau. Roedd ganddyn nhw wynebau tebyg i wyneb dynol,
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn yr olwg arnynt yr oedd y locustiaid yn debyg i geffylau wedi eu paratoi i ryfel. Ar eu pennau yr oedd megis coronau euraid, ac yr oedd eu hwynebau fel wynebau dynol,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A ffurfiau y locustiaid oeddent yn debyg i feirch wedi eu parotôi i ryfel; ac ar eu pennau megys coronau yn debyg i aur, a'u hwynebau fel wynebau dynion.