Romans 1:10 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
yn ’oystadawl yn vy‐gweddiau, yn erchi, ar vot ymy mewn ryw vodd o’r dywedd ryw bryd gael rwydd‐hynt gan wyllys Duw, y ddyvot atoch.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
yn deisyf a gawn ryw fodd ryw amser bellach rwyddhynt trwy ewyllys Duw i ddyfod attoch:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
gan ddeisyf a gawn rywfodd, rywbryd bellach, rwydd hynt trwy ewyllys Duw i ddyfod atoch.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gan ddeisyf a gawn ryw fodd, ryw amser bellach, rwydd hynt gydag ewyllys Duw i ddyfod atoch chwi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i'n gweddïo y bydd e'n ei gwneud hi'n bosib i mi ddod atoch chi o'r diwedd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
wrth ofyn ganddo, os dyna'i ewyllys, a gaf fi yn awr o'r diwedd, rywsut neu'i gilydd, rwydd hynt i ddod atoch.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
yn deisyf a gawn ryw fodd ryw amser bellach rwydd‐hynt, yn ewyllys Duw, i ddyfod attoch chwi.