Romans 1:12 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
’sef yw hyny, er cael cyd ymddiðanu a chwi, trwy ffyð y gylyð, sef eich vn chwi a’r veu vi.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a hyny yw fel y’m cyd-gysurer ynoch, trwy ffydd ein gilydd, yr eiddoch chwi a’r eiddof finnau.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
hynny yw, i’n cydgysuro yn eich plith drwy’r ffydd sydd yn y naill a’r llall, yr eiddoch chwi a’r eiddof finnau.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hynny sydd i'm cydymgysuro ynoch chwi, trwy ffydd ein gilydd, yr eiddoch chwi a'r eiddof finnau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Byddwn i a chithau'n cael ein calonogi wrth i ni rannu'n profiadau.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
neu yn hytrach, os caf esbonio, i mi, yn eich cymdeithas, gael fy nghalonogi ynghyd chwi trwy'r ffydd sy'n gyffredin i'r naill a'r llall ohonom.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
hynny yw, fel y'n calonoger ynghyd ynoch chwi, trwy y ffydd sydd yn y naill a'r llall, yr eiddoch chwi a'r eiddof finnau.