Romans 1:13 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can hyny vroder, mi wyllyswn na baech yn anwybot, modd y pwrpasais yn vynech ddyvot atoch (and darvot vy rhwystro yd hyn) val y caffwn beth ffrwyth hefyt yn eich plith chwi the, me g is ymae y mi ym‐plith y Cenetloeð eraill.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac nid ewyllysiaf i chwi fod heb wybod, frodyr, mai llawer gwaith yr arfaethais ddyfod attoch (ond lluddiwyd fi hyd yn hyn,) fel y byddai rhyw ffrwyth i mi ynoch chwi hefyd, fel yn y cenhedloedd eraill.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac ni fynnwn i chwi fod heb wybod, frodyr, i mi lawer gwaith fwriadu dyfod atoch, a’m rhwystro hyd yn hyn, fel y cawn ryw ffrwyth ynoch chwithau, megis yn y gweddill o’r Cenhedloedd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr ni fynnwn i chwi fod heb wybod, frodyr, i mi yn fynych arfaethu dyfod atoch, (ond fo'm lluddiwyd i hyd yn hyn,) fel y cawn ryw ffrwyth ynoch chwi hefyd, megis ag yn y Cenhedloedd eraill.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i am i chi ddeall, frodyr a chwiorydd annwyl, fy mod i wedi bwriadu dod acw lawer gwaith, ond mae rhywbeth wedi fy rhwystro bob tro hyd yn hyn. Dw i eisiau gweld mwy a mwy o bobl Rhufain yn dod i gredu yn Iesu, fel sydd wedi digwydd yn y gwledydd eraill lle dw i wedi bod.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr wyf am i chwi wybod, fy nghyfeillion, imi fwriadu lawer gwaith ddod atoch, er mwyn cael peth ffrwyth yn eich plith chwi fel y cefais ymhlith y rhelyw o'r Cenhedloedd, ond hyd yma yr wyf wedi fy rhwystro.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac ni fynnwn i chwi fod heb wybod, frodyr, i mi yn fynych arfaethu dyfod attoch (ond lluddiwyd fi hyd yn hyn), fel y cawn ryw ffrwyth hefyd ynoch chwithau, megys ag yn y Cenhedloedd eraill.