Romans 1:20 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
O bleit y anweledig ion bethe ef, nid amgen, ei veddiant tragyvythavl a’i Ddywdab, vvy a welir wrth creadurieth y byd, gan vod ystyried y weithredoedd ef, megis y byddent yn ddiescus:
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Canys Ei anweledig bethau Ef er’s creadigaeth y byd, yn cael eu canfod yn y pethau a wnaed, a welir yn eglur, yn gystal Ei dragywyddol allu Ef a’i Dduwdod,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys ei anweledig bethau ef, er creadigaeth y byd, o’u deall trwy’r pethau a wnaed, a welir yn glir — ei dragwyddol allu a’i ddwyfoldeb — fel y byddont yn ddiesgus.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys ei anweledig bethau ef er creadigaeth y byd, wrth eu hystyried yn y pethau a wnaed, a welir yn amlwg, sef ei dragwyddol allu ef a'i Dduwdod; hyd onid ydynt yn ddiesgus:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Er bod Duw ei hun yn anweledig, mae'r holl bethau mae wedi eu creu yn dangos yn glir mai fe ydy'r Duw go iawn a bod ei allu yn ddi-ben-draw. Felly does gan neb esgus dros beidio credu!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn wir, er pan greodd Duw y byd, y mae ei briodoleddau anweledig ef, ei dragwyddol allu a'i dduwdod, i'w gweld yn eglur gan y deall yn y pethau a greodd. Am hynny, y maent yn ddiesgus.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys ei anweledig bethau ef, o greadigaeth y byd, a welir yn amlwg, gan gael eu canfod trwy y pethau a wnaed, sef ei fythol allu a'i Ddwyfoldeb; fel y maent hwy yn ddiesgus.