Romans 1:21 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
O bleit ac yn hwy yn adnabot Duw, ny s roeson‐ogo niant yddaw megis y Dduw, ac ny ddiolch e sant, eithyr ymwacau o hanynt yn ei rhesymae, a’i calon ampwylloc oedd yn llawn tywylluc h.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
fel y byddont hwy yn ddiesgus; canys, a hwy yn adnabod Duw, ni ogoneddasant Ef megis Duw na rhoddi diolch, eithr ofer yr aethant yn eu hymresymmiadau, a thywyllwyd eu calon anneallus.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Oherwydd er iddynt adnabod Duw nis gogoneddasant fel Duw, na rhoddi diolch, ond aethant yn ofer yn eu hopiniynau a thywyllwyd eu calon anneallus.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Oblegid a hwy yn adnabod Duw, nis gogoneddasant ef megis Duw, ac na buont ddiolchgar iddo; eithr ofer fuont yn eu rhesymau, a'u calon anneallus hwy a dywyllwyd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond y drwg ydy, er bod pobl yn gwybod fod Duw'n bodoli, maen nhw wedi gwrthod ei anrhydeddu a diolch iddo. Yn lle hynny maen nhw wedi hel pob math o syniadau dwl. Maen nhw wir yn y tywyllwch.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd, er iddynt wybod am Dduw, nid ydynt wedi rhoi gogoniant na diolch iddo fel Duw, ond yn hytrach wedi troi eu meddyliau at bethau cwbl ofer; ac y mae wedi mynd yn dywyllwch arnynt yn eu calon ddiddeall.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Oblegyd, a hwy yn adnabod Duw, nis gogoneddasant ef megys Duw, ac ni roddasant ddiolch; eithr hwy a wnaed yn ofer yn eu hymresymiadau, a thywyllwyd eu calon anneallus.