Romans 1:23 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys wy a ysmudesant ’ogoniant yr anllygredic D d uw i lun delw lygredic ddyn, ac ehediait, ac aniveilieid‐pedwar carnol, ac ymlyscieit,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
yn ynfydion yr aethant, a newidiasant ogoniant yr anllygredig Dduw am gyffelybiaeth llun dyn llygredig ac ehediaid ac anifeiliaid pedwar-carnol ac ymlusgiaid.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a chyfnewid gogoniant yr anllygradwy Dduw am debygrwydd llun dyn llygradwy, ac ehediaid, a phedwarcarnolion, ac ymlusgiaid.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac a newidiasant ogoniant yr anllygredig Dduw i gyffelybiaeth llun dyn llygredig, ac ehediaid, ac anifeiliaid pedwarcarnol, ac ymlusgiaid.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yn lle addoli'r Duw bendigedig sy'n byw am byth bythoedd, maen nhw wedi dewis plygu o flaen delwau wedi eu cerfio i edrych fel pethau fydd yn marw — pobl, adar, anifeiliaid ac ymlusgiaid.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y maent wedi ffeirio gogoniant yr anfarwol Dduw am ddelw ar lun dyn marwol, neu adar neu anifeiliaid neu ymlusgiaid.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ac a newidiasant ogoniant yr anllygredig Dduw am gyffelybiaeth llun dyn llygredig, ac ehediaid, ac anifeiliaid pedwar‐carnol, ac ymlusgiaid.