Romans 1:25 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
sef yr ei a droent wirionedd Duw yn gelwydd, ac a aðolēt ac a wasanaethent y creadur, a‐gady‐heibio y Creawdr, yr hwn ’sy dd yn vendiged ic yn oes oesoedd, Amen.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
y rhai a newidiasant wirionedd Duw am gelwydd, ac a addolasant ac a wasanaethasant y creadur tu hwnt i’r Creawdwr, yr Hwn sydd fendigedig yn dragywydd. Amen.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
y rhai a newidiodd y Gwir Dduw am y Celwydd, ac addoli a gwasanaethu y cread yn hytrach nag ef a’i creodd, yr hwn sydd fendigedig yn oes oesoedd. Amen.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y rhai a newidiasant wirionedd Duw yn gelwydd, ac a addolasant ac a wasanaethasant y creadur yn fwy na'r Creawdwr, yr hwn sydd fendigedig yn dragwyddol. Amen.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Maen nhw wedi credu celwydd yn lle credu beth sy'n wir am Dduw! Maen nhw'n addoli a gwasanaethu pethau sydd wedi cael eu creu yn lle addoli'r Crëwr ei hun! — yr Un sy'n haeddu ei foli am byth! Amen!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y maent wedi ffeirio gwirionedd Duw am anwiredd, ac addoli a gwasanaethu'r hyn a grewyd yn lle'r Creawdwr. Bendigedig yw ef am byth! Amen.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
yn gyfryw ag a drawsnewidiasant wirionedd Duw yn y Celwydd, ac a addolasant ac a wasanaethasant y creadur yn hytrach na'r Creawdwr, yr hwn sydd fendigedig yn dragywydd. Amen.