Romans 1:27 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac yn gyffelyp hefyt y gwyr y adawent yr arver anianawl o’r wreic, ac a ymloscent yn ei chwant wrth eu gylydd, gan i r g wyr‐ ryvv weithio croesaneth a’r gwyr‐ ryvv, a’ d erbyn ynddyn y hunain cyfryw dal iad dros ei cyfeilorn ac oeð addas.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac yn y cyffelyb fodd y gwrrywiaid hefyd a adawsant yr arfer anianol o’r fanyw, ac a losgasant yn eu chwennychiad i’w gilydd, gwrrywiaid gyda gwrrywiaid yn gweithredu bryntni; ac y tâl am eu cyfeiliornad, yr hwn oedd rhaid, ynddynt eu hunain a dderbyniant.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a’r un modd, gan adael heibio yr arfer naturiol o’r wraig, ymlosgodd y gwŷr hwythau yn eu dyhead am ei gilydd, gwŷr gyda gwŷr yn cyflawni’r ffieidd-dra, ac yn derbyn ynddynt eu hunain y tâl priod am eu cyfeiliorni.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yn gyffelyb y gwŷr hefyd, gan adael yr arfer naturiol o'r wraig, a ymlosgent yn eu hawydd i'w gilydd; y gwŷr ynghyd â gwŷr yn gwneuthur brynti, ac yn derbyn ynddynt eu hunain y cyfryw dâl am eu cyfeiliorni ag ydoedd raid.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dynion hefyd, yn dewis troi cefn ar y berthynas naturiol gyda merch ac yn llosgi o chwant rhywiol am ei gilydd! Maen nhw'n gwneud pethau cwbl anweddus, ac yn wynebu'r gosb maen nhw'n ei haeddu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a'r dynion yr un modd, y maent wedi gadael heibio gyfathrach naturiol merch, gan losgi yn eu blys am ei gilydd, dynion yn cyflawni bryntni ar ddynion, ac yn derbyn ynddynt eu hunain y tl anochel am eu camwedd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ac yn gyffelyb y gwrrywod hefyd, gan adael yr arfer naturiol o'r fenyw, a fflamiasant i fyny yn eu chwant un am y llall, gwrrywod ynghyd â gwrrywod yn gweithredu yr anweddeidd‐dra, ac yn derbyn ynddynt eu hunain y tâl am eu cyfeiliornad, yr hwn oedd ddyledus.